Darlithydd - Sgiliau Hanfodol Cymru (0.7)
Darlithydd - Sgiliau Hanfodol Cymru (0.7)
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da i"",""w to addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am athrawon neu ddarlithwyr hyblyg a phrofiadol i gyflenwi a darparu holl gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (Cyfathrebu, Cymhwyso Rhifedd, Llythrennedd Digidol a Chyflogadwyedd) hyd at Lefel 2 o leiaf
- £18,470-£36,351 yr flwyddyn (£26,386 - £51,931 FTE) (yn dibynnu ar gymwusterau a phrofiad)
- Athrawon, darlithwyr neu athrawon ysgol uwchradd wedi ymddeol cymwysedig a rhagorol, sy’n deall heriau amgylchedd addysgu
- Gweithwyr proffesiynol sy’n gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm i ddatblygu potensial dysgwyr, gan werthfawrogi eu bod yn dod o amrywiaeth eang o cefndiroedd
- Pobl gyfeillgar a chlên gyda disgwyliadau uchel o bob dysgwr
- Gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad perthnasol diweddar o fentrau a manylebau newydd. Ar gyfer Llythrennedd Digidol er enghraifft, sgiliau i addysgu’r canlynol: llythrennedd gwybodaeth, cydweithredu digidol, creadigrwydd a sgiliau dysgu a defnyddio moesegol o adnoddau digidol, olion traed digidol, amddiffyn eich hun ar-lein a seiberfwlio
- Ymarferydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf sydd â dealltwriaeth o bwysigrwydd anghenion unigol dysgwyr
- Rhywun sydd â’r hyder a’r creadigrwydd i rannu syniadau ar gyfer ennyn diddordeb dysgwyr a dylunio adnoddau digidol difyr i wella’r ddarpariaeth ymhellach
- Gallu gweithio’n dda dan bwysau
- 46 diwrnod o wyliau blynyddol / Cytundeb Cenedlaethol Hawl Gyliau Blynyddol (pro rata)
- Cynllun Pensiwn Athrowon a chyfraniad cyflogwr o 28% ar gyfartaledd (2024)
- Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
- Cyflog Amser Llawn: £26,386 - £51,931 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwusterau a phrofiad.
Amrywiaeth a ChynhwysiantRydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
- Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
- Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).
Email me jobs like this
"Darlithydd - Sgiliau Hanfodol Cymru (0.7)" in Swansea
One click to unsubscribe, any time. We only use your address for this alert.